Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 26 Chwefror 2018 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2018(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Rebecca Hardwicke, Cymorth Busnes i'r Aelodau Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr.
2 Ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol
Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad am y trafodaethau parhaus ynghylch diwallu anghenion y Cynulliad a’r Comisiwn o ran adeiladau yn y dyfodol.
3 Costau cysylltiedig â Swyddfa’r Aelodau a gyllidir yn ganolog gan Gomisiwn y Cynulliad
Trafododd y Comisiynwyr y costau, heblaw’r rhai a ddarperir gan y Penderfyniad, y mae’r Aelodau yn mynd iddynt wrth redeg eu swyddfeydd.
Cytunwyd ar gynigion i adolygu’r ffordd y caiff cyllidebau cysylltiedig â swyddfa eu rheoli dros y tymor byr a’r tymor hir gyda’r bwriad o sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd y gwariant ychwanegol hwn yn ymwneud â Swyddfeydd Aelodau.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar ymgynghori â’r Aelodau ynghylch cyflwyno camau interim tuag at y dull gweithredu hwn.
4 Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Lobïo - ymateb
Trafododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r trefniadau ar gyfer tryloywder ynghylch lobïo.
Cytunodd y Comisiynwyr ar ymatebion i’r pedwar argymhelliad, er mwyn ymateb i’r Pwyllgor Safonau.
5 Gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon 2016-17 - ymateb
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am waith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfrifon 2016-17, yn enwedig y ddau argymhelliad yn ei adroddiad terfynol yn ymwneud â’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
6 Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn 2018-19 - ymateb
Wedi rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyllid eisoes, trafododd y Comisiynwyr weddill yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2018-19, yn ymwneud ag adeiladau a’r Adolygiad Capasiti.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
7 Dirprwyo o ran cyfrifoldebau gweithredol
Cytunodd y Comisiynwyr i ddirprwyo’r cyfrifoldeb gweithredol a nodwyd i’r Prif Weithredwr.
8 Prisiad actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Gofynnwyd i’r Comisiynwyr roi eu barn ynghylch a ddylid mabwysiadu rhagamcanion poblogaeth diweddaraf Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016 i’w defnyddio ym mhrisiad y Cynllun Pensiwn Aelodau. Cytunwyd y dylid.
9 Adroddiad ar ddyfarnu contractau - rheoli cyfleusterau
Ymgynghorodd y Prif Weithredwr a’r Clerc â’r Comisiynwyr, yn unol â’r Dirprwyo, ar ddyfarnu’r contract ar gyfer Rheoli Cyfleusterau.
Gwerth elfen gwasanaethau’r contract yw ychydig o dan £2.5 miliwn am bedair blynedd y contract. Fodd bynnag, mae’r contract hwn hefyd yn gyfrwng ar gyfer gweithgarwch cynnal a chadw a phrosiectau gwella ar yr ystâd. Felly, gallai cyfanswm gwerth y contract godi uwchlaw’r trothwy sy’n golygu bod angen cynnal yr ymgynghoriad hwn.
Nododd y Comisiynwyr ganlyniad y broses ar gyfer gwerthuso tendro a chymeradwyodd ddyfarnu’r contract.
10 Papurau i’w nodi:
10.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Cynulliad (ACARAC)
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018.
10.2 Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau
Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad mis Chwefror gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.
11 Unrhyw fater arall
Adolygiad Capasiti - Cytunodd y Comisiynwyr ar ragair eu hadroddiad.
Cynnig ynghylch Dippy - Cytunodd y Comisiwn i ffurfioli’r cynnig i drosglwyddo arddangosfa Dippy i safle Parc Cathays yr Amgueddfa Genedlaethol, yn dilyn trafodaethau ag Amgueddfa Bud Natur a chyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ystyriwyd y materion canlynol, a’u cytuno, drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
• Adroddiad terfynol yr adolygiad capasiti
• Cytundeb dangosol ynghylch cyfeiriad y polisi Urddas a Pharch